Ymgyrch Condor

Ymgyrch Condor
Enghraifft o'r canlynolpolitical repression Edit this on Wikidata
Dechreuwyd25 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1989 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwyrdd: aelodau gweithgar (Yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Paragwâi, Tsile, Wrwgwái). Gwyrdd golau: aelodau achlysurol (Colombia, Periw, Feneswela). Glas: (UDA).

Ymgyrch ddirgel o ormes wleidyddol a weithredwyd gan lywodraethau adain-dde yn Ne America yn y 1970au oedd Ymgyrch Condor (Sbaeneg: Operación Cóndor neu Plan Cóndor, Portiwgaleg: Operação Condor) oedd yn cynnwys bradlofruddio, herwgipio, artaith, diflaniad gorfodol, a gweithredoedd cudd-wybodaeth. Aelodau'r cynllun oedd yr Ariannin, Bolifia, Brasil, Paragwâi, Tsile, ac Wrwgwái. Bwriad y rhaglen oedd i gael gwared ar ddylanwad a syniadau sosialaidd a chomiwnyddol ac i reoli mudiadau oedd yn gwrthwynebu'r llywodraethau. Amcangyfrifir i 15,000–30,000 o bobl farw o ganlyniad i Ymgyrch Condor.[1]

Wedi iddo gipio grym yn Tsile ym 1973, cychwynnodd yr Arlywydd Augusto Pinochet ar ymgyrch o ormes yn erbyn yr adain chwith. Sefydlwyd cynllun ffurfiol rhwng y chwe gwlad mewn cyfarfod o gynrychiolwyr cudd-wybodaeth filwrol ar 25 Tachwedd 1972, pen-blwydd Pinochet yn 60 oed. Cytunodd y llywodraethau i ddanfon timau i wledydd ei gilydd i gadw golwg ar wrthwynebwyr gwleidyddol ac i'w lladd. Cafodd canolfan i gydlynu gwybodaeth ei sefydlu ym mhencadlys y Dina, heddlu cudd Tsile, yn Santiago.[2]

Tri cham oedd i'r cynllun: yn gyntaf, i herwgipio, holi, ac arteithio; yn ail, i hwyluso'r cydweithrediad rhwng gwasanaethau cudd-wybodaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth a chydlynu gwyliadwriaeth; ac yn drydydd, gweithredoedd cudd i ladd gwrthwynebwyr alltud mewn gwledydd tramor.[1] Ymhlith y fath lofruddiaethau oedd Orlando Letelier yn Washington, D.C., Bernardo Leighton a'i wraig yn Rhufain, y Cadfridog Carlos Prats yn Buenos Aires, a chyn-arlywydd Bolifia Juan José Torres yn Buenos Aires. Esgus yr ymgyrch oedd i atal comiwnyddion rhag tanseilio a dymchwel y llywodraeth, ond cafodd nifer o grwpiau eu targedu mewn ymgais i gael gwared â gwrthwynebiad gwleidyddol o bob ochr: undebwyr llafur, arweinwyr y werin, offeiriaid a lleianod, deallusion, newyddiadurwyr, myfyrwyr, ac addysgwyr.[1]

Yn ôl dogfennau a ddigelwyd, cafodd Ymgyrch Condor ei chefnogi gan yr Unol Daleithiau fel cynllun gwrth-derfysgaeth gwrth-gomiwnyddol yn ystod y Rhyfel Oer, a chyd-weithiodd y CIA gyda rhai o luoedd diogelwch De America.[1] Roedd y CIA yn ymwybodol o gynlluniau Condor i dargedu arweinwyr "grwpiau terfysgol" alltud. Rhybudiodd yr Ysgrifennydd Tramor Henry Kissinger, mewn ceblau diplomyddol, i lysgenhadon Americanaidd beidio â chodi'r mater o gamdriniaethau hawliau dynol yn Ne America.

Daeth yr ymgyrch i ben yn niwedd y 1970au o ganlyniad i densiynau mewnol gan y lluoedd diogelwch a gwasanaethau cudd-wybodaeth. Erbyn y 1990au, roedd y llywodraethau i gyd wedi colli grym ar ffordd y cyfandir i ddemocratiaeth. Ystyrir troseddau'r ymgyrch yn enghraifft nodweddiadol o derfysgaeth wladwriaethol.

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Leslie Alan Horvitz and Christopher Catherwood. Encyclopedia of War Crimes and Genocide (Efrog Newydd: Infobase, 2006), t. 334–5.
  2. (Saesneg) Robert Plummer. "Condor legacy haunts South America", BBC (8 Mehefin 2005). Adalwyd ar 1 Hydref 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search